Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 11.48 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Ruth Hussey, Llywodraeth Cymru Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru Sue Bowker, Llywodraeth Cymru Dewi Jones, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor i:
· amlinellu barn Llywodraeth Cymru ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i:
- osod cyfyngiadau ar werthu cynhyrchion siwgr uchel ac alcohol; a
- gwahardd gwerthu sigaréts confensiynol yng Nghymru.
· rhoi manylion nifer y bobl yr oedd arnynt angen cymorth meddygol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf o ganlyniad i ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithdrefnau arbennig a nodir yn y Bil, gan gynnwys y gost o ddarparu'r driniaeth, wedi'i manylu yn ôl y 4 gweithdrefn;
· rhoi manylion y dystiolaeth y cyfeiriodd ato yn dweud bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr e-sigaréts hefyd yn defnyddio sigaréts tybaco confensiynol; ac
· amlinellu cyfradd llwyddiant defnyddio e-sigaréts fel dull o roi'r gorau i ysmygu o gymharu ag opsiynau eraill.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2015
3.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin.
3.2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gohebiaeth gan y Llywydd
3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
3.3 Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): gohebiaeth mewn perthynas â'r trafodion Cyfnod 2
3.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc yn ei drafodaeth nesaf ar raglen waith y Pwyllgor.
3.4 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gwybodaeth ychwanegol
3.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.
3.5 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Prif Swyddog Meddygol
3.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chroesawodd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i:
· ofyn i gael gwybod am unrhyw gynnydd pellach gyda'r ddogfen consensws clinigol sy'n cael ei datblygu gan y Grŵp Rheoli Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan a Rhwydwaith Mamolaeth Cymru Gyfan; a
· cheisio gwybodaeth bellach am yr amserlenni ar gyfer y gwaith sy'n mynd rhagddo gan y Grŵp Mamolaeth a'r Rhwydwaith Newyddenedigol i ddatblygu llwybrau gofal i rieni a babanod, gan gynnwys darparu gofal lliniarol a phrofedigaeth.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2015
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: ystyried y llythyr drafft
6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.